2 Brenhinoedd 17:17-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Yr oeddent yn arfer dewiniaeth a swynion, ac yn ymroi'n llwyr i wneud yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, i'w ddigio.

18. Llidiodd yr ARGLWYDD yn fawr yn erbyn Israel, a gyrrodd hwy o'i ŵydd, heb adael ond llwyth Jwda'n unig ar ôl.

19. Eto ni chadwodd Jwda chwaith orchmynion yr ARGLWYDD eu Duw, ond dilyn yr un arferion ag Israel.

2 Brenhinoedd 17