1 Timotheus 4:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Y mae'r Ysbryd yn dweud yn eglur y bydd rhai mewn amserau diweddarach yn cefnu ar y ffydd. Byddant yn troi at ysbrydion twyllodrus ac at bethau y mae cythreuliaid yn eu dysgu trwy ragrith pobl gelwyddog.

2. Pobl yw'r rhain â'u cydwybod wedi ei serio,

3. yn gwahardd priodi, ac yn mynnu fod pobl yn ymwrthod â bwydydd—bwydydd y mae Duw wedi eu creu i'w derbyn â diolch gan y credinwyr sydd wedi canfod y gwirionedd.

4. Oherwydd y mae pob peth a greodd Duw yn dda, ac ni ddylid gwrthod dim yr ydym yn ei dderbyn â diolch iddo ef,

5. oherwydd y mae'n cael ei sancteiddio trwy air Duw a gweddi.

1 Timotheus 4