1 Timotheus 2:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yn y lle cyntaf, felly, yr wyf yn annog bod ymbiliau, gweddïau, deisyfiadau a diolchiadau yn cael eu hoffrymu dros bawb,

2. dros frenhinoedd a phawb sydd mewn awdurdod, inni gael byw ein bywyd yn dawel a heddychlon, yn llawn duwioldeb a gwedduster.

3. Peth da yw hyn, a chymeradwy gan Dduw, ein Gwaredwr,

4. sy'n dymuno gweld pob un yn cael ei achub ac yn dod i ganfod y gwirionedd.

1 Timotheus 2