1 Samuel 7:9-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Cymerodd Samuel oen sugno a'i offrymu'n boethoffrwm cyfan i'r ARGLWYDD; gweddïodd ar yr ARGLWYDD dros Israel, ac atebodd yr ARGLWYDD ef.

10. Y diwrnod hwnnw, fel yr oedd Samuel yn offrymu'r poethoffrwm, a'r Philistiaid yn nesáu i ymladd ag Israel, cododd yr ARGLWYDD storm daranau yn erbyn y Philistiaid a'u drysu, a gyrrwyd hwy ar ffo o flaen Israel.

11. Yna aeth gwŷr Israel allan o Mispa, ac erlid y Philistiaid a'u taro nes dod islaw Beth-car.

1 Samuel 7