1 Samuel 4:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yr oedd gair Samuel yn air i Israel gyfan.Aeth Israel i ryfel yn erbyn y Philistiaid a gwersyllu ger Ebeneser, a'r Philistiaid yn gwersyllu yn Affec.

2. Wedi i'r Philistiaid drefnu eu byddin yn erbyn Israel, aeth yn frwydr, a threchwyd Israel gan y Philistiaid; lladdwyd tua phedair mil o'r fyddin ar faes y gad.

3. Pan ddychwelodd y bobl i'r gwersyll, holodd henuriaid Israel, “Pam y trawodd yr ARGLWYDD ni heddiw o flaen y Philistiaid? Cymerwn atom o Seilo arch cyfamod yr ARGLWYDD, a doed i'n plith i'n hachub o law ein gelynion.”

4. Anfonodd y bobl i Seilo a chymryd oddi yno arch cyfamod ARGLWYDD y Lluoedd sydd â'i orsedd ar y cerwbiaid. Yno hefyd, gydag arch cyfamod Duw, yr oedd dau fab Eli, Hoffni a Phinees.

1 Samuel 4