1 Samuel 30:17-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Trawodd Dafydd hwy o'r cyfnos hyd nos drannoeth, heb i neb ohonynt ddianc, ar wahân i bedwar cant o lanciau a ffodd ar gefn camelod.

18. Achubodd Dafydd y cwbl yr oedd yr Amaleciaid wedi ei gymryd, ac achub ei ddwy wraig hefyd.

19. Nid oedd yr un ohonynt ar goll, o'r hynaf i'r ieuengaf, na bechgyn na genethod, nac ychwaith ddim o'r ysbail a gymerwyd gan yr Amaleciaid; cafodd Dafydd y cwbl yn ôl.

20. Wedi i Ddafydd adennill yr holl ddefaid ac ychen, gyrasant rai o flaen y lleill a dweud, “Ysbail Dafydd yw hyn.”

21. Daeth Dafydd at y ddau gant o ddynion oedd yn rhy flinedig i'w ganlyn, ac a oedd wedi eu gadael wrth nant Besor. Daethant hwythau allan i gyfarfod Dafydd a'r bobl oedd gydag ef; a phan ddaeth Dafydd yn ddigon agos, cyfarchodd hwy.

1 Samuel 30