1 Samuel 28:23-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

23. Ond gwrthododd, a dweud nad oedd am fwyta. Wedi i'w weision a'r ddynes bwyso arno, gwrandawodd arnynt, a chodi oddi ar lawr ac eistedd ar y gwely.

24. Yr oedd gan y ddynes lo pasgedig yn y cwt, a brysiodd i'w ladd; hefyd cymerodd flawd a'i dylino a phobi bara croyw.

25. Yna fe'u gosododd o flaen Saul a'i weision; ac wedi iddynt fwyta, aethant ymaith ar unwaith y noson honno.

1 Samuel 28