1 Samuel 25:8-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Gofyn i'th lanciau, ac fe ddywedant wrthyt. Felly rho dderbyniad caredig i'm llanciau innau, oherwydd daethom ar ddiwrnod da; rho'r hyn sydd agosaf at dy law i'th weision ac i'th fab Dafydd.’ ”

9. Daeth llanciau Dafydd a dweud y geiriau hyn i gyd yn enw Dafydd.

10. Wedi iddynt orffen, atebodd Nabal a dweud wrth weision Dafydd, “Pwy yw Dafydd, a phwy yw mab Jesse? Y mae llawer o weision yn dianc oddi wrth eu meistri y dyddiau hyn.

11. A wyf fi i gymryd fy mara a'm dŵr a'r cig a leddais ar gyfer fy nghneifwyr, a'u rhoi i ddynion na wn o ble y maent?”

1 Samuel 25