1 Samuel 24:18-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Ac yr wyt wedi dangos mor dda fuost tuag ataf heddiw, pan oedd yr ARGLWYDD wedi fy rhoi yn dy law, a thithau'n ymatal rhag fy lladd.

19. Pan fydd rhywun yn dod ar warthaf ei elyn, a yw'n ei adael yn rhydd? Bydded i'r ARGLWYDD dalu'n ôl iti'n hael am yr hyn a wnaethost imi heddiw.

20. Mi wn, bellach, mai ti sydd i fod yn frenin, ac y bydd teyrnas Israel yn llwyddo danat;

21. tynga imi'n awr yn enw'r ARGLWYDD, na fyddi'n difa fy hil ar fy ôl nac yn dileu fy enw o'm teulu.”

22. Tyngodd Dafydd i Saul. Yna aeth Saul adref, a Dafydd a'i wŷr i fyny'n ôl i'r lloches.

1 Samuel 24