1 Samuel 22:14-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Atebodd Ahimelech y brenin a dweud, “Pwy o blith dy holl weision sydd mor deyrngar â Dafydd, yn fab-yng-nghyfraith i'r brenin, ac yn bennaeth dy osgorddlu ac yn uchel ei barch yn dy blas?

15. Ai dyna'r tro cyntaf imi ymofyn â Duw drosto? Nage'n wir! Peidied y brenin â chyhuddo ei was, na'r un o'i deulu, oherwydd ni ŵyr dy was ddim am hyn, na bach na mawr.”

16. Dywedodd y brenin, “Yr wyt ti, Ahimelech, yn mynd i farw, ie, ti a'th holl deulu.”

1 Samuel 22