1 Samuel 2:3-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Peidiwch ag amlhau geiriau trahaus,na gadael gair hy o'ch genau;canys Duw sy'n gwybod yw'r ARGLWYDD,ac ef sy'n pwyso gweithredoedd.

4. Dryllir bwâu y cedyrn,ond gwregysir y gwan â nerth.

5. Bydd y porthiannus yn gweithio am eu bara,ond y newynog yn gorffwyso bellach.Planta'r ddi-blant seithwaith,ond dihoeni a wna'r aml ei phlant.

6. Yr ARGLWYDD sy'n lladd ac yn bywhau,yn tynnu i lawr i Sheol ac yn dyrchafu.

7. Yr ARGLWYDD sy'n tlodi ac yn cyfoethogi,yn darostwng a hefyd yn dyrchafu.

8. Y mae'n codi'r gwan o'r llwchac yn dyrchafu'r anghenus o'r domen,i'w osod i eistedd gyda phendefigionac i etifeddu cadair anrhydedd;canys eiddo'r ARGLWYDD golofnau'r ddaear,ac ef a osododd y byd arnynt.

1 Samuel 2