1 Samuel 18:8-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Digiodd Saul yn arw, a chafodd ei gythruddo gan y dywediad. Meddai, “Maent yn rhoi myrddiynau i Ddafydd, a dim ond miloedd i mi; beth yn rhagor sydd iddo ond y frenhiniaeth?”

9. O'r diwrnod hwnnw ymlaen yr oedd Saul yn cadw llygad ar Ddafydd.

10. Trannoeth meddiannwyd Saul gan yr ysbryd drwg, a pharablodd yn wallgof yng nghanol y tŷ, ac yr oedd Dafydd yn canu'r delyn yn ôl ei arfer.

11. Yr oedd gan Saul waywffon yn ei law, a hyrddiodd hi, gan feddwl trywanu Dafydd i'r pared, ond osgôdd Dafydd ef ddwywaith.

12. Cafodd Saul ofn rhag Dafydd oherwydd fod yr ARGLWYDD wedi troi o'i blaid ef ac yn erbyn Saul.

1 Samuel 18