1 Samuel 18:4-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. tynnodd y fantell oedd amdano a'i rhoi i Ddafydd; hefyd ei arfau, hyd yn oed ei gleddyf, ei fwa a'i wregys.

5. Llwyddodd Dafydd ym mhob gorchwyl a roddai Saul iddo, a gosododd Saul ef yn bennaeth ei filwyr, er boddhad i bawb, gan gynnwys swyddogion Saul.

6. Un tro yr oeddent ar eu ffordd adref, a Dafydd yn dychwelyd ar ôl taro'r Philistiaid, a daeth y gwragedd allan ym mhob tref yn Israel i edrych; aeth y merched dawnsio i gyfarfod y Brenin Saul gyda thympanau a molawdau a thrionglau,

1 Samuel 18