11. Yna gofynnodd Samuel i Jesse, “Ai dyma'r bechgyn i gyd?” Atebodd yntau, “Y mae'r ieuengaf ar ôl, yn bugeilio'r defaid.” Ac meddai Samuel wrth Jesse, “Anfon amdano; nid awn ni oddi yma nes iddo ef ddod.”
12. Felly anfonodd i'w gyrchu. Yr oedd yn writgoch, a chanddo lygaid gloyw ac yn hardd yr olwg. A dywedodd yr ARGLWYDD, “Tyrd, eneinia ef, oherwydd hwn ydyw.”
13. Cymerodd Samuel y corn olew, a'i eneinio yng nghanol ei frodyr; a disgynnodd ysbryd yr ARGLWYDD ar Ddafydd, o'r dydd hwnnw ymlaen. Yna aeth Samuel yn ôl i Rama.
14. Ciliodd ysbryd yr ARGLWYDD oddi wrth Saul, a dechreuodd ysbryd drwg oddi wrth yr ARGLWYDD aflonyddu arno.
15. Dywedodd gweision Saul wrtho, “Dyma sydd o'i le: y mae un o'r ysbrydion drwg yn aflonyddu arnat.
16. O na fyddai'n meistr yn gorchymyn i'w weision yma chwilio am ŵr sy'n medru canu telyn! Caiff yntau ei chanu pan fydd yr ysbryd drwg yn ymosod arnat, a byddi dithau'n well.”
17. Dywedodd Saul wrth ei weision, “Chwiliwch am ddyn sy'n delynor da, a dewch ag ef ataf.”