1 Samuel 15:17-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. A dywedodd Samuel, “Er iti fod yn fychan yn d'olwg dy hun, oni ddaethost yn ben ar lwythau Israel, a'r ARGLWYDD wedi d'eneinio'n frenin ar Israel?

18. Fe anfonodd yr ARGLWYDD di allan a dweud, ‘Dos a difroda'r pechaduriaid hynny, Amalec, a rhyfela â hwy nes eu difa.’

19. Pam na wrandewaist ar lais yr ARGLWYDD, ond rhuthro ar yr ysbail, a gwneud drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD?”

20. Dywedodd Saul wrth Samuel, “Ond yr wyf wedi gwrando ar lais yr ARGLWYDD, a mynd fel yr anfonodd ef fi; deuthum ag Agag brenin Amalec yn ôl, a difrodi'r Amaleciaid.

1 Samuel 15