5. Yna dywedodd wrthynt, “Y mae'r ARGLWYDD yn dyst yn eich erbyn heddiw, a'i eneiniog hefyd, na chawsoch un dim yn fy meddiant.” “Ydyw, y mae'n dyst,” meddai'r bobl.
6. Dywedodd Samuel, “Y tyst yw yr ARGLWYDD, a gododd Moses ac Aaron, ac a ddygodd eich hynafiaid i fyny o wlad yr Aifft;
7. felly safwch mewn trefn er mwyn imi ymresymu â chwi gerbron yr ARGLWYDD, ynglŷn â'r holl weithredoedd achubol a wnaeth yr ARGLWYDD drosoch chwi a'ch hynafiaid.
8. Wedi i Jacob ddod i lawr i'r Aifft, gwaeddodd eich hynafiaid ar yr ARGLWYDD; anfonodd yntau Moses ac Aaron, a daethant hwy â'ch hynafiaid allan o'r Aifft a'u rhoi i fyw yn y lle hwn.
9. Ond oherwydd iddynt anghofio'r ARGLWYDD eu Duw, gwerthodd hwy i law Sisera, pennaeth byddin Hasor, ac i'r Philistiaid, ac i frenin Moab; a bu'r rhain yn rhyfela yn eu herbyn.
10. Yna bu iddynt weiddi ar yr ARGLWYDD a dweud, ‘Yr ydym ar fai am inni gefnu ar yr ARGLWYDD ac addoli'r Baalim a'r Astaroth; ond yn awr, achub ni o law ein gelynion, ac fe'th addolwn di.’
11. Anfonodd yr ARGLWYDD Jerwbbaal, Bedan, Jefftha a Samuel, a gwaredodd chwi o law y gelynion o'ch cwmpas, a chawsoch fyw'n ddiogel.
12. Ond pan welsoch Nahas brenin yr Ammoniaid yn dod yn eich erbyn, dywedasoch wrthyf, ‘Na, rhaid cael brenin i deyrnasu arnom’, er bod yr ARGLWYDD eich Duw yn frenin arnoch.
13. Yn awr, dyma'r brenin yr ydych wedi ei ddewis a gofyn amdano; ydyw, y mae'r ARGLWYDD wedi rhoi brenin i chwi.
14. Os byddwch yn ofni'r ARGLWYDD, ac yn ei addoli ef ac yn ufuddhau iddo heb wrthryfela yn erbyn ei orchymyn, ac os byddwch chwi a'r brenin a osodir arnoch yn dilyn yr ARGLWYDD eich Duw, popeth yn dda.