34. Clywodd Bacchides am hyn ar y Saboth, ac aeth ef a'i holl fyddin dros yr Iorddonen.
35. Anfonodd Jonathan ei frawd yn arweinydd y dyrfa, i ddeisyf ar ei gyfeillion y Nabateaid am gael gadael yn eu gofal hwy yr eiddo sylweddol oedd ganddynt.
36. Ond dyma deulu Jambri, brodorion o Medaba, yn dod allan a chipio Ioan a'r cyfan oedd ganddo, a'i ddwyn i ffwrdd gyda hwy.
37. Wedi'r pethau hyn mynegwyd i Jonathan a'i frawd Simon, “Y mae teulu Jambri yn dathlu priodas fawr, ac yn hebrwng y briodferch, merch un o brif benaethiaid Canaan, allan o Nadabath gyda gosgordd fawr.”
38. Yna cofiasant am lofruddiaeth Ioan eu brawd, ac aethant i fyny ac ymguddio yng nghysgod y mynydd.
39. Codasant eu llygaid ac edrych, a dyna dyrfa drystiog a llawer o gelfi; a'r priodfab a'i gyfeillion a'i frodyr yn dod allan i'w cyfarfod, gyda thympanau ac offerynnau cerdd ac arfau lawer.