1 Macabeaid 6:42-54 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

42. Ond nesaodd Jwdas a'i fyddin i'r frwydr, a syrthiodd chwe chant o wŷr byddin y brenin.

43. Gwelodd Eleasar, a elwid Afaran, fod un o'r anifeiliaid wedi ei wisgo â'r llurig frenhinol, a'i fod yn dalach na'r holl anifeiliaid eraill, a thybiodd mai ar hwnnw yr oedd y brenin.

44. Felly rhoes ei fywyd i achub ei bobl ac i ennill iddo'i hun enw tragwyddol.

45. Rhedodd yn ddewr ato i ganol y fintai, gan ladd ar y dde ac ar y chwith, a'r gelyn yn ymrannu o'r ddeutu o'i flaen.

46. Aeth o dan yr eliffant a'i drywanu oddi yno a'i ladd; ond syrthiodd yr anifail i lawr ar ei ben yntau, a bu farw yno.

47. Pan welodd yr Iddewon gryfder byddin y brenin a rhuthr ei luoedd, ffoesant rhagddynt.

48. Teithiodd rhan o fyddin y brenin i fyny i Jerwsalem ar gyrch, a gwarchaeodd y brenin ar Jwdea ac ar Fynydd Seion.

49. Gwnaeth heddwch â thrigolion Bethswra; ymadawsant hwy â'r ddinas am nad oedd ganddynt luniaeth yno i wrthsefyll y gwarchae arni, oherwydd yr oedd yn flwyddyn sabothol i'r tir.

50. Meddiannodd y brenin Bethswra a gosod gwarchodlu yno i'w gwylio.

51. Yna gwarchaeodd ar y deml am ddyddiau lawer, gan osod yno lwyfannau-saethu, a pheiriannau rhyfel i boeri tân a cherrig, ac offer i saethu taflegrau, a chatapwltau.

52. Adeiladodd yr Iddewon hwythau beiriannau rhyfel i wynebu eu peiriannau hwy, ac ymladdasant am ddyddiau lawer.

53. Ond nid oedd ganddynt ymborth yn y stordai, am mai'r seithfed flwyddyn ydoedd; ac yr oedd y ffoaduriaid o blith y Cenhedloedd, a oedd wedi dod i Jwdea, wedi bwyta hynny oedd yn weddill o'r stôr.

54. Ychydig o wŷr a adawyd ar ôl yn y cysegr; yr oedd newyn wedi eu goddiweddyd, a phob un wedi mynd ar wasgar i'w le ei hun.

1 Macabeaid 6