41. Crynai pawb a glywai drwst eu niferoedd ac ymdaith y dorf a chloncian yr arfau, oherwydd yr oedd y fyddin yn fawr iawn a chadarn.
42. Ond nesaodd Jwdas a'i fyddin i'r frwydr, a syrthiodd chwe chant o wŷr byddin y brenin.
43. Gwelodd Eleasar, a elwid Afaran, fod un o'r anifeiliaid wedi ei wisgo â'r llurig frenhinol, a'i fod yn dalach na'r holl anifeiliaid eraill, a thybiodd mai ar hwnnw yr oedd y brenin.
44. Felly rhoes ei fywyd i achub ei bobl ac i ennill iddo'i hun enw tragwyddol.
45. Rhedodd yn ddewr ato i ganol y fintai, gan ladd ar y dde ac ar y chwith, a'r gelyn yn ymrannu o'r ddeutu o'i flaen.
46. Aeth o dan yr eliffant a'i drywanu oddi yno a'i ladd; ond syrthiodd yr anifail i lawr ar ei ben yntau, a bu farw yno.