1 Macabeaid 6:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Wrth i'r Brenin Antiochus deithio drwy daleithiau'r dwyrain clywodd fod Elymais, dians yn Persia, yn enwog am ei golud mewn arian ac aur.

2. Yr oedd ei theml yn oludog iawn, gyda'r llenni euraid, a'r llurigau, a'r arfau a adawyd ar ôl gan Alexander fab Philip, brenin Macedonia, y cyntaf i fod yn frenin ar y Groegiaid.

3. Daeth Antiochus yno, a cheisio meddiannu'r ddinas a'i hysbeilio, ond ni lwyddodd, am i'w gynllwyn ddod yn hysbys i'r dinasyddion.

4. Codasant i ryfela yn ei erbyn, a ffoes yntau ac ymadael oddi yno wedi ei siomi'n fawr, i ddychwelyd i Fabilon.

1 Macabeaid 6