1 Macabeaid 5:48-50 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

48. Anfonodd Jwdas atynt neges heddychlon: “Yr ydym ar fynd drwy eich gwlad er mwyn cyrraedd ein gwlad ein hunain, ac ni wna neb ddrwg i chwi. Cerdded trwodd yn unig y byddwn.” Ond ni fynnent agor iddo.

49. Yna gorchmynnodd Jwdas gyhoeddi yn y fyddin fod pob un i wersyllu yn y man lle'r oedd.

50. Gwersyllodd gwŷr y llu, ac ymladdodd ef yn erbyn y dref y diwrnod hwnnw ar ei hyd, a'r nos hefyd, nes i'r dref ildio i'w ddwylo.

1 Macabeaid 5