1 Macabeaid 4:32-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

32. Gwna hwy'n llwfr a difa eu haerllugrwydd trahaus; pâr iddynt grynu yn eu dinistr.

33. Bwrw hwy i lawr â chleddyf y rhai sy'n dy garu, a boed i bawb sy'n adnabod dy enw dy glodfori ag emynau.”

34. Aethant i'r afael â'i gilydd, a syrthiodd tua phum mil o wŷr byddin Lysias yn y brwydro clòs.

35. Pan welodd Lysias ei lu ar ffo, a dewrder milwyr Jwdas, ac mor barod oeddent i fyw neu i farw'n anrhydeddus, aeth ymaith i Antiochia, a chasglu ynghyd filwyr cyflog, er mwyn ymosod ar Jwdea â byddin gryfach fyth.

36. Yna dywedodd Jwdas a'i frodyr, “Dyna'n gelynion wedi eu dryllio; awn i fyny i lanhau'r cysegr a'i ailgysegru.”

1 Macabeaid 4