1 Macabeaid 3:6-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Ciliodd y digyfraith rhagddo mewn braw,a thrallodwyd holl weithredwyr drygioni.Ffynnodd achos gwaredigaeth dan ei law ef.

7. Parodd ddicter i frenhinoedd lawerond rhoes lawenydd i Jacob drwy ei weithredoedd.Bendigedig fydd ei goffadwriaeth am byth.

8. Tramwyodd drwy drefi Jwdagan lwyr ddinistrio'r annuwiol o'r tir.Trodd ymaith y digofaint oddi wrth Israel.

9. Daeth yn enwog hyd at derfynau'r ddaear,a chasglodd ynghyd y rhai oedd ar ddarfod amdanynt.

10. Casglodd Apolonius rai o blith y Cenhedloedd, a byddin gref o Samaria, i ryfela yn erbyn Israel. Pan glywodd Jwdas am hyn, aeth allan i'w gyfarfod.

1 Macabeaid 3