1 Macabeaid 3:53-56 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

53. Sut y gallwn ni eu gwrthsefyll os na fydd i ti ein cynorthwyo?”

54. Yna canasant yr utgyrn, a gweiddi â llef uchel.

55. Wedi hyn, penododd Jwdas lywodraethwyr ar y bobl, swyddogion dros fil, dros gant, dros hanner cant a thros ddeg.

56. A dywedodd wrth y rhai oedd yn adeiladu tai, a'r rhai oedd wedi eu dyweddïo, a'r rhai oedd yn plannu gwinllannoedd, a'r rhai ofnus, am ddychwelyd bob un i'w gartref, yn unol â'r gyfraith.

1 Macabeaid 3