1 Macabeaid 3:42-47 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

42. Pan welodd Jwdas a'i frodyr fod pethau'n mynd o ddrwg i waeth, a bod byddinoedd yn gwersyllu y tu mewn i ffiniau eu gwlad, a hwythau'n gwybod am orchmynion y brenin i ddinistrio'r genedl yn llwyr,

43. dywedasant wrth ei gilydd, “Gadewch i ni ailgodi adfeilion ein pobl, ac ymladd dros ein pobl a'n cysegr.”

44. Daeth y gynulleidfa ynghyd i baratoi at ryfel ac i weddïo a deisyf am drugaredd a thosturi.

45. Yr oedd Jerwsalem yn anghyfannedd fel anialwch,heb neb o'i phlant yn mynd i mewn nac allan,a'i chysegr yn cael ei sathru dan draed.Estroniaid oedd yn ei chaer,a hithau'n llety i'r Cenhedloedd.Amddifadwyd Jacob o'i lawenydd,a distawodd y ffliwt a'r delyn.

46. Daethant ynghyd i Mispa, gyferbyn â Jerwsalem, oherwydd yno bu lle gweddi gynt i Israel.

47. Y diwrnod hwnnw ymprydiodd y bobl, gan wisgo sachliain a rhoi lludw ar eu pennau a rhwygo'u dillad.

1 Macabeaid 3