1 Macabeaid 3:19-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Nid yw buddugoliaeth mewn rhyfel yn dibynnu ar luosogrwydd byddin; o'r nef yn hytrach y daw nerth.

20. Y maent yn ymosod arnom, yn llawn traha ac anghyfraith, i'n dinistrio ni a'n gwragedd a'n plant, ac i'n hysbeilio,

21. ond yr ydym ninnau'n brwydro dros ein bywydau a'n cyfreithiau.

22. Bydd ef yn eu dryllio o flaen ein llygaid; felly peidiwch chwi â'u hofni.”

23. Wedi iddo orffen siarad, gwnaeth ymosodiad sydyn ar y gelyn, a drylliwyd Seron a'i fyddin o'i flaen.

24. Ymlidiasant Seron i lawr trwy fwlch Beth-horon hyd at y gwastadedd, a lladd tua wyth gant o'r gelyn; ffodd y gweddill i wlad y Philistiaid.

1 Macabeaid 3