1 Macabeaid 2:4-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Jwdas a elwid Macabeus,

5. Eleasar a elwid Abaran, a Jonathan a elwid Apffws.

6. Pan welodd Matathias y pethau cableddus oedd yn digwydd yn Jwda ac yn Jerwsalem,

7. dywedodd:“Gwae fi! Pam y'm ganwyd i welddinistr fy mhobl a dinistr y ddinas sanctaidd,ac i drigo yno pan roddwyd hi yn nwylo gelynion,a'i chysegr yn nwylo estroniaid?

8. Aeth ei theml fel rhywun a ddianrhydeddwyd,

9. a dygwyd ymaith ei llestri gogoneddus yn ysbail;lladdwyd ei babanod yn ei heolydd,a'i gwŷr ifainc gan gleddyf y gelyn.

1 Macabeaid 2