1 Macabeaid 2:31-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

31. Ac adroddwyd wrth swyddogion y brenin a'r lluoedd oedd yn Jerwsalem, dinas Dafydd, bod pobl a dorrodd orchymyn y brenin wedi mynd i lawr i'r llochesau yn yr anialwch.

32. Rhuthrodd llawer ohonynt ar eu hôl a'u goddiweddyd, a gwersyllu gyferbyn â hwy, a pharatoi cyrch yn eu herbyn ar y Saboth.

33. A dywedasant wrthynt: “Dyna ddigon! Dewch allan ac ufuddhewch i orchymyn y brenin, a chewch fyw.”

34. Ond atebasant: “Ni ddown ni allan, ac ni chyflawnwn orchymyn y brenin i halogi'r Saboth.”

35. Yna prysurodd y gelyn i ymosod arnynt.

36. Ond ni wnaethant hwy ddim mewn ymateb iddynt, na lluchio carreg atynt, na chau'r llochesau rhagddynt.

1 Macabeaid 2