1 Macabeaid 16:22-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. Pan glywodd yntau aeth yn orffwyll. Daliodd y gwŷr a ddaeth i'w lofruddio, a'u lladd hwy, am ei fod yn gwybod eu bod yn ceisio'i lofruddio.

23. Am y gweddill o weithredoedd Ioan, ei ryfeloedd a'r gwrhydri a wnaeth, y muriau a adeiladodd, a'i orchestion,

24. y mae'r rhain wedi eu hysgrifennu yng nghofnodion ei archoffeiriadaeth, o'r amser y daeth yn archoffeiriad ar ôl ei dad.

1 Macabeaid 16