1 Macabeaid 15:35-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

35. Ynglŷn â Jopa a Gasara, y lleoedd yr wyt ti yn eu hawlio, yr oedd y rhain yn peri difrod mawr ymhlith ein pobl ac yn ein gwlad; eto fe rown gan talent amdanynt.”

36. Nid atebodd Athenobius un gair iddo. Dychwelodd at y brenin mewn dicter, ac adrodd iddo eiriau Simon, a disgrifio'i rwysg a'r cwbl a welodd. Digiodd y brenin yn gynddeiriog.

37. Ffoes Tryffo mewn llong i Orthosia.

1 Macabeaid 15