1 Macabeaid 15:21-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Gan hynny, os bydd rhyw ddihirod wedi ffoi o'u gwlad atoch chwi, traddodwch hwy i Simon yr archoffeiriad, iddo ef ddial arnynt yn ôl cyfraith yr Iddewon.”

22. Ysgrifennwyd yr un neges at y Brenin Demetrius, ac at Attalus, Ariarathes, Arsaces,

23. at Sampsames ac at y Spartiaid, yn ogystal ag i'r holl leoedd canlynol: Delos, Myndos, Sicyon, Caria, Samos, Pamffylia, Lycia, Halicarnassus, Rhodos, Phaselis, Cos, Side, Aradus, Gortuna, Cnidus, Cyprus a Cyrene.

24. Ysgrifenasant hefyd gopi o'r pethau hyn i'r archoffeiriad Simon.

1 Macabeaid 15