1 Macabeaid 14:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yn y flwyddyn 172 casglodd y Brenin Demetrius ei luoedd ynghyd a theithiodd i Media i geisio cymorth iddo'i hun, fel y gallai ryfela yn erbyn Tryffo.

2. Pan glywodd Arsaces, brenin Persia a Media, fod Demetrius wedi dod i'w gyffiniau, anfonodd un o'i gapteiniaid i'w ddal yn fyw.

3. Aeth hwnnw a tharo gwersyll Demetrius, a'i ddal a'i ddwyn at Arsaces; rhoddodd yntau ef yng ngharchar.

4. Cafodd gwlad Jwda heddwch holl ddyddiau Simon. Ceisiodd ef ddaioni i'w genedl, a bodlonwyd hwythau gan ei awdurdod a'i fri dros ei holl ddyddiau.

1 Macabeaid 14