1 Macabeaid 13:8-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. ac atebasant â llais uchel: “Ti yw ein harweinydd ni yn lle Jwdas a Jonathan dy frawd.

9. Ymladda di ein rhyfel, a pha beth bynnag a ddywedi wrthym, fe'i gwnawn.”

10. Casglodd yntau yr holl wŷr cymwys i ryfela, a brysiodd i orffen muriau Jerwsalem, a'i chadarnhau o bob tu.

11. Anfonodd Jonathan fab Absalom, a llu mawr gydag ef, i Jopa; taflodd hwnnw y trigolion allan ac ymsefydlu yno yn y dref.

1 Macabeaid 13