1 Macabeaid 13:31-41 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

31. Bu Tryffo'n ddichellgar yn ei ymwneud â'r brenin ifanc Antiochus, a lladdodd ef.

32. Gwnaeth ei hun yn frenin yn ei le, a gwisgodd goron Asia, gan ddwyn trallod mawr ar y wlad.

33. Adeiladodd Simon geyrydd Jwdea a'u cadarnhau â thyrau uchel ac â muriau cadarn a phyrth a barrau, a gosododd luniaeth yn y ceyrydd.

34. Dewisodd Simon hefyd wŷr, a'u hanfon at y Brenin Demetrius i geisio gollyngdod i'r wlad, gan mai lladrad oedd holl drethi Tryffo.

35. Anfonodd y Brenin Demetrius neges fel a ganlyn ato; atebodd ef, a dyma'r llythyr a ysgrifennodd yn ateb i'w gais:

36. “Y Brenin Demetrius at Simon, archoffeiriad a chyfaill brenhinoedd, ac at henuriaid a chenedl yr Iddewon, cyfarchion.

37. Yr ydym wedi derbyn y goron aur a'r gangen balmwydden a anfonasoch, ac yr ydym yn barod i wneud heddwch parhaol â chwi, ac i ysgrifennu at ein swyddogion yn rhoi caniatâd i chwi beidio â thalu trethi.

38. Y mae'r holl gytundebau hynny a wnaethom â chwi wedi eu cadarnhau, ac y mae'r ceyrydd a adeiladasoch i fod yn eiddo i chwi.

39. Yr ydym yn maddau eich troseddau, bwriadol ac anfwriadol, hyd at y dydd hwn, ynghyd ag arian y goron a oedd yn ddyledus gennych; ac y mae unrhyw dreth arall a godid yn Jerwsalem i gael ei diddymu.

40. Os oes yn eich plith rai cymwys i gael eu cofrestru'n aelodau o'n gosgordd, fe gânt eu cofrestru. Boed heddwch rhyngom.”

41. Yn y flwyddyn 170 codwyd ymaith iau'r Cenhedloedd oddi ar war Israel.

1 Macabeaid 13