1 Macabeaid 12:17-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Am hynny rhoesom orchymyn iddynt ddod atoch chwithau, a'ch cyfarch, a rhoi i chwi y llythyr hwn gennym ynghylch adnewyddu ein brawdgarwch â chwi hefyd.

18. Yn awr, felly, a fyddwch cystal â rhoi ateb inni i'r neges hon?”

19. Dyma gopi o'r llythyr oedd wedi ei anfon at Onias:

20. “Arius brenin y Spartiaid at yr archoffeiriad Onias, cyfarchion.

21. Darganfuwyd mewn dogfen fod y Spartiaid a'r Iddewon yn frodyr, a'u bod fel ei gilydd o hil Abraham.

22. Gan inni ddod i wybod hyn, a fyddwch cystal yn awr ag ysgrifennu atom am eich hynt?

1 Macabeaid 12