1 Macabeaid 11:43-62 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

43. Yn awr, gan hynny, byddi'n gwneud cymwynas â mi os anfoni ataf wŷr i ryfela wrth fy ochr, oherwydd y mae fy holl luoedd wedi cefnu arnaf.”

44. Yna anfonodd Jonathan ato i Antiochia dair mil o wŷr cyhyrog; daethant at y brenin, a pharodd eu dyfodiad lawenydd mawr i'r brenin.

45. Ymgasglodd y dinasyddion i ganol y ddinas, tua chant ac ugain o filoedd o wŷr, â'u bryd ar ladd y brenin.

46. Ffoes y brenin i'r palas; meddiannodd y dinasyddion strydoedd y ddinas a dechrau ymladd.

47. Galwodd y brenin yr Iddewon i'w gynorthwyo; ymgasglasant i gyd ato ar unwaith, ac yna ymledu ar hyd y ddinas a lladd tua chan mil y dydd hwnnw.

48. Llosgodd yr Iddewon y ddinas a chymryd llawer o ysbail y dydd hwnnw, ac achub y brenin hefyd.

49. Pan welodd y dinasyddion fod yr Iddewon wedi dod yn feistri llwyr ar y ddinas, collasant eu hyder, ac ymbil ar y brenin, gan lefain fel hyn:

50. “Estyn inni dy ddeheulaw mewn heddwch, a gad i'r Iddewon roi heibio eu cyrch yn ein herbyn ni a'n dinas.”

51. Taflasant ymaith eu harfau, a gwneud heddwch. Anrhydeddwyd yr Iddewon yng ngŵydd y brenin ac yng ngŵydd pawb yn ei deyrnas. Dychwelsant i Jerwsalem a chanddynt lawer o ysbail.

52. Felly eisteddodd y Brenin Demetrius ar orsedd ei deyrnas, a bu'r wlad yn dawel dano.

53. Ond twyll fu ei holl addewidion; ymddieithriodd oddi wrth Jonathan, ac yn hytrach na thalu'n ôl y cymwynasau a wnaeth Jonathan ag ef, aeth rhagddo i aflonyddu'n fawr arno.

54. Ar ôl hyn dychwelodd Tryffo, a'r bachgen ifanc Antiochus gydag ef, a choronwyd ef yn frenin.

55. Ymgasglodd ato yr holl luoedd yr oedd Demetrius wedi eu troi heibio, ac ymladdasant yn erbyn Demetrius. Enciliodd yntau, a gyrrwyd ef ar ffo.

56. Daeth yr eliffantod i feddiant Tryffo, a choncrodd Antiochia.

57. Ysgrifennodd Antiochus ifanc at Jonathan fel hyn: “Yr wyf yn dy gadarnhau yn dy swydd fel archoffeiriad, ac yn dy osod dros y pedair rhandir, ac yn dy wneud yn un o Gyfeillion y Brenin.”

58. Anfonodd iddo lestri aur at ei wasanaeth, a rhoes iddo'r hawl i yfed allan o lestri aur, i ymddilladu mewn porffor a gwisgo clespyn aur.

59. Gosododd ei frawd Simon yn llywodraethwr ar y parthau o Risiau Tyrus hyd at gyffiniau'r Aifft.

60. Aeth Jonathan allan a theithio trwy'r wlad yr ochr arall i'r afon, a'r trefi yno. Ymgasglodd ato holl luoedd Syria, i fod yn gynghreiriaid iddo. Cyrhaeddodd Ascalon, a daeth y dinasyddion allan i'w dderbyn yn anrhydeddus.

61. Oddi yno aeth i Gasa, ond caeodd pobl Gasa y pyrth yn ei erbyn. Gwarchaeodd yntau arni a llosgi ei maestrefi â thân, a'u hysbeilio.

62. Ymbiliodd pobl Gasa am heddwch, a gwnaeth Jonathan delerau â hwy. Cymerodd feibion eu harweinwyr yn wystlon, a'u hanfon i ffwrdd i Jerwsalem. Yna tramwyodd trwy'r wlad hyd at Ddamascus.

1 Macabeaid 11