1 Macabeaid 10:78-80 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

78. Ymlidiodd Jonathan ar ei ôl hyd Asotus, a daeth y byddinoedd ynghyd i ryfel.

79. Ond yr oedd Apolonius wedi gadael mil o wŷr meirch yn ddirgel y tu cefn iddynt,

80. a deallodd Jonathan fod cynllwyn y tu ôl iddo. Amgylchynasant ei fyddin a thaflu saethau at y bobl o fore bach hyd hwyr.

1 Macabeaid 10