1 Macabeaid 1:45-51 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

45. Yr oeddent i wahardd poethoffrymau ac aberthau a diodoffrwm yn y cysegr, ac i halogi'r Sabothau a'r gwyliau,

46. a digysegru'r deml a'r offeiriaid.

47. Yr oeddent i adeiladu allorau a chysegrleoedd a themlau i eilunod, ac i aberthu moch ac anifeiliaid halogedig, a gadael eu meibion yn ddienwaededig;

48. yr oeddent i'w halogi eu hunain â phob math o aflendid a llygredd,

49. ac felly i anghofio'r gyfraith a newid yr holl ddeddfau.

50. Cosb anufudd-dod i orchymyn y brenin fyddai marwolaeth.

51. Gyda'r gorchmynion hyn i gyd ysgrifennodd y brenin at ei holl deyrnas, a phenododd arolygwyr dros y bobl i gyd, gan orchymyn i drefi Jwda offrymu aberthau fesul un.

1 Macabeaid 1