1 Macabeaid 1:37-42 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

37. Tywalltasant waed y dieuog o amgylch y cysegr,a halogi'r cysegr ei hun.

38. O'u plegid hwy, ffodd trigolion Jerwsalem,a daeth y ddinas yn breswylfa i estroniaid;daeth yn ddieithr i'w hiliogaeth ei hun,a gadawyd hi gan ei phlant.

39. Gwnaethpwyd ei chysegr yn anghyfannedd fel anialwch;trowyd ei gwyliau yn alara'i Sabothau yn waradwydd,a'i hanrhydedd yn ddirmyg.

40. Mawr y gogoniant a fu iddi gynt,a mawr yr amarch a ddaeth iddi yn awr;a throwyd ei gwychder yn dristwch.

41. Yna rhoddodd y brenin orchymyn i'w holl deyrnas fod pawb ohonynt i ddod yn un bobl, a phob un i ymwrthod â'i arferion crefyddol ei hun.

42. Cydymffurfiodd y Cenhedloedd i gyd â gorchymyn y brenin,

1 Macabeaid 1