1 Macabeaid 1:36-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

36. Yr oedd y lle yn fan cynllwynio yn erbyn y cysegr ac yn fygythiad dieflig i Israel yn barhaus.

37. Tywalltasant waed y dieuog o amgylch y cysegr,a halogi'r cysegr ei hun.

38. O'u plegid hwy, ffodd trigolion Jerwsalem,a daeth y ddinas yn breswylfa i estroniaid;daeth yn ddieithr i'w hiliogaeth ei hun,a gadawyd hi gan ei phlant.

39. Gwnaethpwyd ei chysegr yn anghyfannedd fel anialwch;trowyd ei gwyliau yn alara'i Sabothau yn waradwydd,a'i hanrhydedd yn ddirmyg.

40. Mawr y gogoniant a fu iddi gynt,a mawr yr amarch a ddaeth iddi yn awr;a throwyd ei gwychder yn dristwch.

1 Macabeaid 1