1 Macabeaid 1:34-38 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

34. Gosodasant yno bobl bechadurus, dynion digyfraith, a'i gwneud yn gadarnle.

35. Cynullasant stôr o arfau a bwyd, ac wedi casglu ynghyd ysbail Jerwsalem fe'i rhoesant yno, a daethant yn berygl enbyd.

36. Yr oedd y lle yn fan cynllwynio yn erbyn y cysegr ac yn fygythiad dieflig i Israel yn barhaus.

37. Tywalltasant waed y dieuog o amgylch y cysegr,a halogi'r cysegr ei hun.

38. O'u plegid hwy, ffodd trigolion Jerwsalem,a daeth y ddinas yn breswylfa i estroniaid;daeth yn ddieithr i'w hiliogaeth ei hun,a gadawyd hi gan ei phlant.

1 Macabeaid 1