1 Macabeaid 1:25-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. Bu galar mawr yn Israel ym mhobman;

26. griddfanodd llywodraethwyr a henuriaid,llesgaodd genethod a llanciau,gwywodd tegwch y gwragedd.

27. Ymunodd pob priodfab yn y galar,ac wylai'r briodferch yn yr ystafell briodas.

28. Crynodd y tir ei hun dros ei drigolion,a gwisgwyd holl dŷ Jacob â chywilydd.

29. Ar ôl dwy flynedd, anfonodd y brenin brif gasglwr trethi i drefi Jwda, a daeth ef i Jerwsalem gyda byddin gref.

30. Llefarodd ef eiriau heddychlon wrthynt yn ddichellgar, a chredodd y bobl ef. Yna yn ddisymwth ymosododd ar y ddinas a'i tharo ag ergyd galed, a lladdodd lawer o bobl Israel.

1 Macabeaid 1