1 Macabeaid 1:22-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. a bwrdd y bara cysegredig a'r cwpanau a'r cawgiau a'r thuserau aur a'r llen a'r coronau. Rhwygodd ymaith yr holl addurn aur oedd ar wyneb y deml.

23. Cymerodd hefyd yr arian a'r aur a'r llestri gwerthfawr, a hefyd y trysorau cuddiedig y daeth o hyd iddynt.

24. Gan gymryd y cyfan gydag ef, dychwelodd i'w wlad ei hun. Gwnaeth gyflafan fawr a llefarodd yn dra rhyfygus.

25. Bu galar mawr yn Israel ym mhobman;

1 Macabeaid 1