1 Esdras 9:7-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Cododd Esra a dweud wrthynt, “Yr ydych wedi torri'r gyfraith trwy briodi merched estron ac ychwanegu at bechod Israel.

8. Yn awr gwnewch gyffes, a rhowch ogoniant i Arglwydd Dduw ein hynafiaid;

9. gwnewch ei ewyllys ef ac ymwahanwch oddi wrth y brodorion a'ch gwragedd estron.”

10. Atebodd yr holl gynulleidfa â llais uchel, “Gwnawn yn union fel yr wyt ti wedi gorchymyn.

11. Ond y mae'r gynulleidfa'n niferus a'r tywydd yn aeafol, ac ni allwn sefyll yma yn yr awyr agored; y mae'n amhosibl. Nid gwaith diwrnod neu ddau yw hyn i ni, oherwydd y mae gormod ohonom wedi pechu yn hyn o beth.

1 Esdras 9