1 Esdras 8:42-48 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

42. Ac wedi canfod nad oedd yno neb o linach yr offeiriaid na neb o'r Lefiaid,

43. anfonais at Eleasar, Idwelus, Maasmas,

44. Elnatan, Samaias, Joribus, Nathan, Enmatas, Sacharias a Mesolamus, a oedd yn wŷr blaenllaw a gwybodus,

45. a dywedais wrthynt am fynd at Adaius, y pennaeth yn y trysordy,

46. gan orchymyn iddynt ofyn i Adaius a'i frodyr a'r trysoryddion yno anfon atom rai i weinyddu fel offeiriaid yn nhŷ ein Harglwydd.

47. A thrwy law nerthol ein Harglwydd dygasant inni ddynion gwybodus o deulu Mooli fab Lefi, fab Israel, sef Asebebias a'i feibion a'i frodyr, deunaw ohonynt i gyd;

48. hefyd Asebias ac Annwnus a Mosaias ei frawd, o deulu Chanwnaius, a'u meibion, ugain ohonynt i gyd;

1 Esdras 8