1 Esdras 6:15-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Ond am i'n hynafiaid wrthryfela a phechu yn erbyn Arglwydd nefol Israel, rhoddodd ef hwy yn nwylo Nebuchadnesar brenin Babilon, brenin y Caldeaid.

16. Dymchwelwyd y tŷ a'i losgi, a chaethgludwyd y bobl i Fabilon.

17. Ym mlwyddyn gyntaf teyrnasiad Cyrus dros wlad Babilonia, rhoes y Brenin Cyrus gennad i adeiladu'r tŷ hwn.

18. Y llestri aur ac arian a ddygodd Nebuchadnesar o'r tŷ yn Jerwsalem a'u rhoi yn ei deml ei hun, cymerodd y Brenin Cyrus hwy drachefn o'r deml ym Mabilon a'u trosglwyddo i Sorobabel a Sanabassar y llywodraethwr.

19. Gorchmynnodd iddo gymryd yr holl lestri yma a'u gosod yn y deml yn Jerwsalem, ac adeiladu'r deml hon o eiddo'r Arglwydd ar ei hen safle.

1 Esdras 6