1 Esdras 6:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yn ail flwyddyn brenhiniaeth Dareius, proffwydodd y proffwydi, Haggai a Sechareia fab Ido, yn enw'r Arglwydd, Duw Israel, i'r Iddewon yn Jwda a Jerwsalem.

2. Yna cododd Sorobabel fab Salathiel a Jesua fab Josedec a dechrau adeiladu tŷ'r Arglwydd yn Jerwsalem; ac yr oedd proffwydi'r Arglwydd gyda hwy yn eu cefnogi.

3. Yr un adeg daeth Sisinnes, llywodraethwr Syria a Phenice, a Sathrabwsanes a'u cefnogwyr atynt a gofyn iddynt,

4. “Pwy a roes ganiatâd i chwi i adeiladu'r tŷ hwn a rhoi to arno a'i gwblhau ym mhob dim arall? A phwy yw'r adeiladwyr sy'n cyflawni'r gwaith hwn?”

1 Esdras 6