1 Esdras 4:25-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. Mae dyn yn caru ei wraig ei hun yn fwy na'i dad a'i fam.

26. Gwragedd a barodd i lawer golli eu synnwyr a mynd yn gaethweision;

27. o achos gwragedd y bu farw llawer, neu lithro a phechu.

28. Nid ydych yn fy nghredu eto? A yw'r brenin yn fawr ei awdurdod? Ydyw. A phob gwlad yn ofni ymyrryd ag ef? Ydyw.

29. Eto gwelais ef gyda'i ordderch Apame, merch yr enwog Bartacus, pan eisteddai hi ar ei law dde

30. a chymryd y goron oddi ar ei ben a'i gosod ar ei phen ei hun, a tharo'r brenin â'i llaw chwith.

1 Esdras 4