1 Esdras 2:2-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. cynhyrfodd yr Arglwydd ysbryd Cyrus brenin Persia i gyhoeddi drwy ei deyrnas i gyd, yn llafar ac yn ysgrifenedig, fel hyn:

3. “Dyma a ddywed Cyrus brenin Persia: Arglwydd Israel, yr Arglwydd Goruchaf, a'm gwnaeth yn frenin ar yr holl fyd,

4. a rhoddodd gyfarwyddyd i mi i adeiladu iddo dŷ yn Jerwsalem yn Jwda.

5. Pwy bynnag ohonoch sy'n perthyn i'w genedl ef, bydded ei Arglwydd gydag ef, ac aed i fyny i Jerwsalem yn Jwda i adeiladu tŷ Arglwydd Israel—ef yw'r Arglwydd sy'n preswylio yn Jerwsalem.

1 Esdras 2