1 Cronicl 7:29-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

29. Meibion Manasse oedd berchen Beth-sean a'i phentrefi, Taanach a'i phentrefi, Megido a'i phentrefi, Dor a'i phentrefi; yno yr oedd meibion Joseff fab Israel yn byw.

30. Meibion Aser: Imna, Isfa, Isfi, Bereia, a Sera eu chwaer.

31. Meibion Bereia: Heber, Malchiel, sef tad Birsafith.

32. Heber oedd tad Jafflet, Somer, Hotham, a Sua eu chwaer.

33. Meibion Jafflet: Pasach, Bimhal ac Asuath.

34. Hwy oedd meibion Jafflet. Meibion Samer: Ahi, Roga, Jehubba ac Aram.

35. Meibion Helem ei frawd: Soffa, Imna, Seles ac Amal.

36. Meibion Soffa: Sua, Harneffer, Sual, Beri, Imra,

37. Beser, Hod, Samma, Silsa, Ithran a Beera.

1 Cronicl 7